John Griffiths AC
 Cadeirydd
 Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
 Cynulliad Cenedlaethol Cymru
 Bae Caerdydd
 CF99 1NA

 

23 Gorffennaf 2019

Annwyl John,

Hawliau pleidleisio i garcharorion

Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor am ei drafodaeth fanwl o'r materion yn ymwneud â hawliau pleidleisio i garcharorion. Ysgrifennaf i ymateb ar ran Comisiwn y Cynulliad i'ch adroddiad, yn benodol yr argymhellion sydd wedi'u hanelu at y Comisiwn.

Fel y gwyddoch, ymgynghorodd y Comisiwn â'r cyhoedd ar y mater hwn yn 2018 fel rhan o'i ymgynghoriad Creu Senedd i Gymru ar ddiwygiadau posibl i drefniadau etholiadol a gweithredol y Cynulliad. Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn tynnu sylw at gymhlethdodau cyfreithiol, moesegol a democrataidd, yn ogystal â materion ymarferol yr oedd angen eu hystyried yn fanwl er mwyn llywio trafodaeth a dadl bellach ar y mater hwn. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor am ymateb yn gadarnhaol i fy ngwahoddiad i drafod y mater hwn.

Wrth wraidd unrhyw drafodaeth o'r mater hwn mae pwysigrwydd sicrhau bod ein hetholfraint etholiadol yn gydnaws â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Yn ystod eich ymchwiliad, fe wnaethoch chi glywed tystiolaeth fanwl gan amrywiaeth o randdeiliaid gwybodus. Er nad oedd pob un o aelodau'r Pwyllgor yn cefnogi pob un o'ch argymhellion, mae eich adroddiad serch hynny yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer trafod y mater hwn ymhellach mewn perthynas ag etholiadau'r Cynulliad a llywodraeth leol yng Nghymru.

Fe wnaeth y Comisiwn drafod eich adroddiad ar 15 Gorffennaf, yn arbennig eich argymhelliad cyntaf:

“Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru a Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth i roi’r hawl i bob carcharor o Gymru bleidleisio mewn etholiadau datganoledig yng Nghymru, os cawsant ddedfryd o lai na phedair blynedd o garchar. Nid yw Mohammad Asghar a Mark Isherwood yn cytuno â’r argymhelliad hwn” (Argymhelliad 1).

Fe wnaeth y Comisiwn drafod a fyddai'n briodol iddo fynd i'r afael â'r mater o bleidleisiau i garcharorion, boed hynny drwy welliant i'r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) neu mewn darn o ddeddfwriaeth gan Gomisiwn y Cynulliad yn y dyfodol. Daeth y Comisiwn i'r casgliad, gan mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am gynnal etholiadau yng Nghymru, mai Gweinidogion Cymru sydd â'r penderfyniad ynghylch a ddylid cyflwyno deddfwriaeth mewn perthynas â hawliau pleidleisio i garcharorion a phryd y dylid gwneud hynny. Mae hyn yn arbennig oherwydd y cymhlethdodau o ran gweithredu y gwnaeth eich Pwyllgor eu nodi. Barn y Comisiwn, felly, yw mai mater i Weinidogion Cymru yw ymateb i argymhellion 1, 2, 7 ac 8.

Er na chafodd ei argymell yn benodol gan y Pwyllgor, fe wnaeth y Comisiwn drafod a oedd yn credu y gallai'r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), sydd yng Nghyfnod 2 y gwaith craffu arno, fod yn gyfrwng addas ar gyfer bwrw ymlaen ag unrhyw gynigion deddfwriaethol i'r perwyl hwn.

Fe wnaeth y Comisiwn nodi sylwadau'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ei adroddiad ar egwyddorion cyffredinol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru):

“nid yw cyhoeddi’r adroddiad hwn [gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau... yn cyfateb i waith craffu Cyfnod 1 ar Fil sy’n cynnwys darpariaethau penodol ar bleidleisio gan garcharorion sy’n rhoi effaith i fwriadau polisi. Mae estyn hawliau pleidleisio i... [g]archarorion yn cynrychioli newid sylweddol i’r etholfraint. Dylai’r darpariaethau deddfwriaethol y byddai eu hangen i gyflawni newid o’r fath, yn unol ag arfer da ar ddeddfu, gael eu cynnwys mewn Bil pan gaiff ei gyflwyno.”

O'r herwydd, heb farnu ar rinweddau'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, neu i'r gwrthwyneb, nid yw'r Comisiwn o'r farn y dylid cyflwyno gwelliannau i'r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) i fynd i'r afael â'r mater hwn. Byddai gwneud hynny yn golygu y byddai newid sylfaenol i hawliau pleidleisio'r Cynulliad yn digwydd heb waith craffu Cyfnod 1 ar y cynigion manwl.

Mae'r Comisiwn yn cytuno ag argymhelliad 3 o ran yr angen i unrhyw ddeddfwriaeth fod ar waith o leiaf chwe mis cyn iddi ddod i rym. Caiff yr egwyddor bwysig hon ei hadlewyrchu yn y sylwadau yr wyf wedi'u gwneud i'r Pwyllgor Busnes mewn perthynas â'r amserlen ar gyfer craffu ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). Byddai'r amserlen arfaethedig yn caniatáu i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol chwe mis cyn y gwaith canfasio ym mis Gorffennaf 2020 at ddibenion etholiad y Cynulliad yn 2021.

Diolch i chi unwaith eto am drafod y materion cyfansoddiadol cymhleth a phwysig hyn.

Yn gywir

Elin Jones

Cadeirydd, Comisiwn y Cynulliad

 

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu’n Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English